Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid

Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd am 1.30pm ddydd Mercher 12 Awst (Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas). Rôl y panel yw craffu perfformiad corfforaethol, gwaith gwella gwasanaethau a threfniadau cyllidebol y cyngor.

Mae dwy sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar yr agenda yr wythnos hon. Mae’r sesiwn gyntaf gyda’r Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach. Mae’r ail sesiwn gyda’r Cynghorydd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad. Diben y sesiynau hyn yw canolbwyntio’n benodol ar gyflawniadau ac effaith y targedau arbed ar gyfer 2014/15 ym mhortffolios Lles a Dinas Iach a Thrawsnewid a Pherfformiad.

Bydd gan y Panel hefyd drosolwg o Barciau a Gerddi a’r newyddion diweddaraf amdanynt a fydd yn cynnwys sut mae’r maes yn datblygu, gweithgareddau a chyflawniadau penodol a’r heriau ar gyfer y 12 mis nesaf.

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd ddod i’r cyfarfod hwn. Os hoffech ddod, neu os ydych am ofyn cwestiwn, rhowch wybod i’r Tîm Craffu drwy ymateb i’r blog hwn, e-bostio scrutiny@swansea.gov.uk neu ffonio 01792 636292.

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.