Pa faterion addysg fydd Cynghorwyr Craffu yn edrych arnynt eleni?

picviewbig

Cyfarfu Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn ddiweddar i drafod ac i gytuno ar ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyn y cyfarfod hwn, cysylltodd y panel â phenaethiaid, cyd-gynghorwyr, y cyhoedd a swyddogion y cyngor gan ofyn ‘beth yw pynciau allweddol y maes addysg ar hyn o bryd yn eu tyb nhw’ a ‘beth maent yn ei feddwl y dylai’r panel fod yn canolbwyntio arno eleni’.

Yn sgîl y drafodaeth hon, dyma rai o’r materion a gaiff eu cynnwys yn y cynllun gwaith:

  • Siarad â 4 ysgol ar draws Abertawe
  • Edrych ar Gynllun Busnes Ein Rhanbarth ar Waith
  • Cyfarpar a thechnegau ar gyfer ymyriad (pa mor effeithiol yw rhaglenni ymyriad)
  • Perfformiad addysgol plant sy’n derbyn gofal a chefnogaeth ar eu cyfer
  • Ansawdd dysgu ac addysgu a chysondeb asesiadau athrawon
  • Perfformiad disgyblion prydau ysgol am ddim gan gynnwys data ar sut y caiff y Grant Amddifadedd Disgyblion ei wario gan ysgolion
  • Gweithio clwstwr – rhwydweithiau a chydweithio effeithiol rhwng ysgolion

Bydd cynghorwyr nawr yn ceisio cynnwys y gwaith hwn yn eu cyfarfodydd misol dros y flwyddyn nesaf. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Panel Perfformiad Craffu Ysgolion neu am fater craffu mwy cyffredinol, ewch i’n gwe-dudalennau yn www.abertawe.gov.uk/craffu

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.