Paneli Craffu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn canolbwyntio ar ‘Asesiadau Gofalwyr’

Yn dilyn trafodaethau a gynhaliwyd fis diwethaf â rhieni oedolion â phroblemau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, mae paneli craffu’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi ymateb i bryderon am ‘asesiadau gofalwyr’ drwy gytuno i gynnal dau gr?p ffocws ychwanegol yn gynharach yr wythnos hon. Clywodd y ddau banel am bryderon gofalwyr gan fynd ati i […]

Cynghorwyr Craffu yn llongyfarch Ysgol Gynradd Penclawdd

Cyfarfu’r Panel a’r Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Penclawdd. Dewison nhw siarad ag Ysgol Gynradd Penclawdd oherwydd ei bod wedi’i chategoreiddio’n Goch ar matrics cefnogi ERW. Roedden nhw am drafod taith wella’r ysgol, edrych ar yr hyn yr oedd yr ysgol yn ei wneud i wella ar ei pherfformiad presennol a sut yr oedd […]

Beth fu effaith yr Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol?

Clywodd Cynghorwyr fod cynnydd da wedi’i wneud gyda’r rhan fwyaf o’r argymhellion a wnaed gan y Panel a bod cyfarwyddyd cliriach bellach gan Lywodraeth Cymru ar weithio rhanbarthol, yn enwedig mewn perthynas â gwella cydweithio rhwng cynghorau. Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol ag Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr ym mis Hydref i drafod […]

Datblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anabledd Dysgu

Cyfarfu Panel Craffu Perfformiad Gwasanaethau i Oedolion ar 24 Medi i drafod yr adroddiad gan y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio’n Dda ar ‘Ddatblygiadau Byw â Chymorth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu’. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y canlynol: Crynodeb o broffil o ddarpariaeth y gwasanaethau […]

Panel Craffu i lobïo Llywodraeth Cymru am Orfodi Cryfach a Chosbau Llymach am Niweidio Bioamrywiaeth

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar 25 Medi i drafod cylch gorchwyl y panel newydd sef Panel Perfformiad yr Amgylchedd Naturiol a throsolwg o ymrwymiadau’r cyngor mewn perthynas â hyn. Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio’n bennaf ar weithgarwch dros y 3 blynedd diwethaf, ond mae cyngor Abertawe wedi bod yn gwneud gwaith mewn cysylltiad â hyn am […]

Cyngor mor barod ag y gall fod ar gyfer Brexit

Cyfarfu cynghorwyr craffu ar Weithgor Brexit ar 23 Medi i drafod cynlluniau’r awdurdod wrth baratoi ar gyfer Brexit. Bydd y Cynghorydd Peter Jones, Cynullydd y Gweithgor yn ysgrifennu at Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Rob Stewart gyda chanfyddiadau’r gweithgor. Sicrhawyd cynghorwyr craffu gan yr wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod ac roeddent yn teimlo bod […]