Dilyniant ac adnewyddiad – dysgwch am y rhaglen waith craffu newydd

Mae rhaglen waith newydd bellach wedi’i chytuno, gyda dewis amrywiol o bynciau y mae cynghorwyr yn bwriadu eu hystyried dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n cynrychioli dilyniant ac adnewyddiad i sicrhau bod craffu bob amser yn ystyried y pethau cywir. Ond cyn hynny, ychydig am ein taith hyd yn hyn…

 

 

 

 

 

 

 

Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio yn y cefndir dros y misoedd diwethaf yn croesawu cynghorwyr newydd a’r rhai a oedd yn dychwelyd ar ôl etholiadau cyngor mis Mai, ac yn paratoi ar gyfer blwyddyn newydd o graffu.

Trefnwyd Marchnad Cynghorwyr gan y cyngor yn fuan ar ôl yr etholiad a oedd wedi galluogi pobl o feysydd gwasanaethu ar draws y cyngor i arddangos eu gwaith.  Roedd y digwyddiad yn gyfle i’r Tîm Craffu gyflwyno’n hunain a dod i adnabod cynghorwyr newydd. Mewn modd craffu arferol, gyda chlipfwrdd yn barod, gofynnom am eu diddordebau, eu pryderon a’u hanghenion, wrth hybu’r swyddogaeth graffu. O’r ‘dystiolaeth’ a gasglwyd, dysgom fod lefel yr wybodaeth am graffu yn uchel ymhlith y cynghorwyr newydd, a chawsom syniad clir o’r pynciau sydd o ddiddordeb iddynt.

Cynhaliwyd Sesiynau Cyflwyno Craffu yn gynnar ym mis Mehefin, a ddarparodd gyfle i wella dealltwriaeth o’r rôl graffu a sut mae’n gallu gwneud gwahaniaeth. Roeddem wedi hybu’r cyfleoedd pwerus y mae’n ei rhoi ar gyfer cwestiynu, ymholi, monitro, a herio’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Roeddem yn dadlau ymagweddau i gwestiynu ac yn trafod cydrannau allweddol i gwestiynu effeithiol.

Yn dilyn y cyflwyniad, cynhaliwyd ein Cynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu yng nghanol mis Mehefin. Bob blwyddyn rydym yn gwahodd pob cynghorydd craffu i gymryd rhan mewn trafodaeth anffurfiol ar flaenoriaethau craffu, ac yn gwahodd awgrymiadau. Mae bob amser yn bwysig edrych yn ôl ar y cynllun blaenorol, ystyried blaenoriaethau corfforaethol y cyngor, a meddwl am farn y cyhoedd, sy’n cael ei chasglu gennym drwy ymgynghoriadau amrywiol.

Cyfrifoldeb Pwyllgor y Rhaglen Graffu, wedi’i gadeirio gan y Cynghorydd Mary Jones, yw cytuno ar raglen waith. Gan nodi adborth o’r gynhadledd ac egwyddorion arweiniol (strategol a sylweddol, sy’n canolbwyntio ar bryderon, ac yn cynrychioli defnydd da o amser ac adnoddau craffu), cytunodd y pwyllgor ar y rhaglen yn ei gyfarfod ar 10 Gorffennaf.

Nododd y pwyllgor y pwysigrwydd o alinio gwaith craffu’n fwy agos gyda’r blaenoriaethau corfforaethol, ond gan gadw cydbwysedd fel y gellir edrych ar bryderon y gymuned. Roedd y pwyllgor hefyd wedi ystyried a fyddai portffolios y cabinet yn cynnwys digon o weithgaredd craffu.

Y rhaglen waith newydd

Cytunodd y pwyllgor i barhau â’r Paneli Perfformiad blaenorol, ond ychwanegodd seithfed panel a fydd yn canolbwyntio ar fonitro Datblygu ac Adfywio yn rheolaidd, yn enwedig wrth ystyried cynlluniau sylweddol ar gyfer adfywio canol y ddinas a Bargen ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gytunwyd yn ddiweddar.

Mae’r pwyllgor yn disgwyl cwblhau dau ymgynghoriad y flwyddyn ddinesig hon, ar Weithio Rhanbarthol, a’r Amgylchedd Naturiol. Bydd y ddau yn galw am gasglu amrywiaeth o dystiolaeth ac yn arwain at adroddiad terfynol gyda chasgliadau ac argymhellion i’r Cabinet.

O ran Gweithgorau dros dro, nodwyd rhestr o faterion sydd wedi’u blaenoriaethu. Mae’r ddau gyntaf y bydd cynghorwyr yn edrych arnynt yn gyfredol iawn: Cynllunio ar gyfer Argyfyngau a Chydnerthu, a Chydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb. Mae mwy o Weithgorau a gynllunnir yn cynnwys: Digartrefedd, Ffïoedd Meysydd Parcio, Cynnal a Chadw Ffyrdd a Throedffyrdd, Ynni Adnewyddadwy, a Chynhwysiad Digidol.

Rydym wedi bod yn chwilio am fynegiadau o ddiddordeb ymhlith cynghorwyr craffu i arwain y gweithgareddau hyn a chyfranogi iddynt. Disgwyliwn y bydd pethau ar waith o fis Awst.

Bydd y pwyllgor yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod atebolrwydd aelodau’r cabinet am eu gwaith, ac mae wedi datblygu amserlen sesiynau holi ac ateb ar gyfer pob un o’i gyfarfodydd misol.

Yn olaf, cafwyd rhai newidiadau i’r tîm yn y misoedd diwethaf – mae Dave McKenna wedi gadael ei rôl fel Rheolwr Craffu. Diolch Dave am eich holl waith caled yn cefnogi craffu dros y 12 mlynedd diwethaf! A chroeso cynnes i Liz Jordan a Bethan Hopkins sy’n ymuno fel Swyddogion Craffu, gan ddisodli Delyth Davies a Rosie Jackson. Yn drist, gadawodd ein Swyddog Ymchwil, Jenna Tucker hefyd ar ddiwedd mis Gorffennaf i ddechrau gyrfa newydd, felly pob lwc Jenna, byddwn yn eich colli!

Byddwn yn blogio eto ar y gweithgareddau craffu allweddol sy’n digwydd a’u heffaith, felly cadwch lygad amdano!

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.