10 peth y dylech eu gwybod am graffu

P’un a ydych newydd ddechrau gweithio i gyngor neu mae gennych flynyddoedd o brofiad, mae’n ddigon posib nad oes neb erioed wedi esbonio diben craffu i chi.

Rydym wedi cydnabod bod angen cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith staff y cyngor am swyddogaeth craffu, y gwaith sy’n cael ei wneud, a’i effaith.

 

 

 

 

 

 

Rydym wedi ceisio pontio’r bwlch drwy lunio stori newyddion i staff i ateb y cwestiynau PAM, SUT a BETH o ran craffu, a lledaenu’r neges … ac mae’r adborth wedi bod yn dda.

Os ydych yn gweithio i gyngor arall, efallai y gallech deilwra’r hyn rydym ni wedi ei wneud i wella gwybodaeth ymhlith eich staff am graffu.

Felly, dyma’r deg peth y dylai pob swyddog y cyngor eu gwybod am graffu:

PAM?

1. Mae gan graffu swyddogaeth statudol ac mae’n elfen bwysig o drefniadau rheoli gwleidyddol a llywodraethu’r cyngor – gan ddarparu atebolrwydd, tryloywder a chyfranogaeth o ran y penderfyniadau a wneir a pherfformiad y cyngor.

 

2. Mae’r p?er i wneud penderfyniadau mewn llywodraeth leol yn nwylo nifer bach o gynghorwyr, y cyfeirir atynt ar y cyd fel y Cabinet (neu’r weithrediaeth). Mae gan bob cynghorydd arall gyfrifoldeb am graffu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, neu sicrhau eu bod hwy’n atebol.

 

3. Prif nod craffu yw gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ i’r Cabinet er mwyn hyrwyddo gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau lleol gwell. Hefyd, gall craffu ystyried materion ehangach sy’n wynebu’r ardal, gan gynnwys y rôl y mae partneriaid gwasanaethau cyhoeddus eraill yn ei chwarae.

 

SUT?

4. Mae’r cyngor yn cytuno ar drefniadau craffu ac mae cynghorwyr yn arwain gwaith craffu. Mae’n ymwneud â grwpiau o gynghorwyr trawsbleidiol yn gweithio mewn nifer o ffyrdd gwahanol i alw’r Cabinet i gyfrif ac archwilio gwaith y cyngor yn ogystal â’r gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae tîm bach o swyddogion arbenigol yn Neuadd y Ddinas yn darparu’r gefnogaeth sefydliadol i gyflawni gwaith craffu effeithiol.

 

5. Mae ein strwythur yn cynnwys un pwyllgor trosgynnol, o’r enw Pwyllgor y Rhaglen Graffu, wedi’i gadeirio gan y Cynghorydd Mary Jones, sy’n datblygu ac yn cytuno ar raglen waith flynyddol o weithgareddau craffu. Arweinir y rhaglen waith gan yr egwyddor sylfaenol y dylai gwaith craffu fod yn strategol ac yn sylweddol, gan ganolbwyntio ar faterion sy’n peri pryder a bod yn ddefnydd da o amser ac adnoddau.

 

6. Mae’r pwyllgor yn dirprwyo gwaith penodol i baneli a gweithgorau craffu amrywiol gan alluogi grwpiau o gynghorwyr i wneud y canlynol:

  • Galw Aelodau’r Cabinet i gyfrif drwy sesiynau holi ac ateb
  • Gwneud cynigion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar faterion sy’n peri pryder drwy baneli ymchwiliad craffu tasg a gorffen sy’n adrodd i’r Cabinet
  • Monitro a herio sut mae gwasanaethau’n perfformio ac yn gwella drwy baneli craffu perfformiad sefydlog
  • Mynd i’r afael â materion sy’n peri pryder drwy weithgorau untro
  • ‘Gwirio’ penderfyniadau’r Cabinet

 

7. Mae gwaith craffu’n ymwneud yn rheolaidd â chyfathrebu barn am faterion penodol (e.e. pryderon a phroblemau) ac argymhellion ar gyfer gwella i Aelodau’r Cabinet yn uniongyrchol drwy lythyrau neu adroddiadau. Bydd uwch-swyddogion yn cyflwyno adroddiadau neu’n darparu gwybodaeth a chyngor ynghylch y gwaith rydych yn ei wneud i helpu cynghorwyr craffu i ddeall y materion a llywio trafodaethau.

 

BETH?

8. Mae’r materion a ystyriwyd gan graffu dros y blynyddoedd diwethaf yn cynnwys trechu tlodi, pa mor barod yw plant i ddechrau’r ysgol, gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc, y diwylliant corfforaethol, gofal cymdeithasol yn y cartref, tai amlfeddiannaeth a gwasanaethau cynllunio. Mae’r rhaglen waith bresennol yn cynnwys canolbwyntio ar weithio rhanbarthol, amgylchedd naturiol Abertawe, cynllunio ar gyfer argyfyngau, cydlyniant cymunedol, digartrefedd, cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd, a chynhwysiad digidol. Mae paneli perfformiad yn parhau i fonitro meysydd gwasanaeth allweddol, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

 

9. Mae pob cyfarfod craffu ar gael i’r cyhoedd (mae’r holl agendâu a llythyrau ar gael ar-lein) a gall unrhyw un sy’n byw neu’n gweithio yn Abertawe awgrymu pwnc ar gyfer craffu. Hefyd, ceir cyfleoedd i awgrymu cwestiynau a mynegi barn. Os hoffech gadw golwg ar yr hyn sy’n digwydd, mae gennym we-dudalennau a chylchlythyr, gallwch hyd yn oed ein dilyn ar Twitter – gweler y dolenni isod.

 

10. Yn ddiweddar, cyrhaeddodd ein hymagwedd ystwyth at graffu y rhestr fer ar gyfer gwobr y Municipal Journal (a adwaenir fel arall fel Oscars llywodraeth leol!) ar gyfer Rhagoriaeth mewn Llywodraethu a Chraffu. Hefyd, cipiodd ein cynghorwyr sy’n craffu ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wobr ‘Tîm y Flwyddyn’ y DU yn 2011, a gyflwynwyd gan y Ganolfan Craffu Cyhoeddus.

 

 

Leave a Comment

*

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.