Ar gyfer yr ymchwiliad craffu hwn daeth gr?p o gynghorwyr at ei gilydd i lunio Panel Ymchwiliad Craffu. Buon nhw’n edrych ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sef deddf a roddwyd ar waith i ddiogelu pobl yn gyfreithiol rhag gwahaniaethu yn y gweithle ac yn y gymdeithas ehangach. Mae hefyd yn nodi’r ffyrdd gwahanol y mae’n anghyfreithlon […]
Archives for August 2019
Bobl Ifanc! Neidiwch ar y trên craffu a dewch i ddysgu am gydraddoldebau!
Hawdd ei ddarllen – yn siwr bod Cyngor Abertawe’n trin pobl yn deg
Eleni, maen nhw wedi bod yn edrych ar ffyrdd o wneud pethau’n decach i bobl Abertawe.Mae hyn yn golygu y dylai pawb gael eu trin yn deg a dylai pobl deimlo’n iach ac yn ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. Maent wedi gweld bod Cyngor Abertawe’n trin pobl yn deg y rhan fwyaf o’r […]
Testun yn unig: Ymchwiliad Craffu Cydraddoldeb
Edrychodd yr ymchwiliad yn gyntaf ar a yw’r cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb cyhoeddus ar gyfer Cymru 2011). Daeth y panel i’r casgliadau canlynol: At ei gilydd, mae’r cyngor yn rhoi sylw dyladwy i ddileu gwahaniaethu, gwella cyfleoedd a meithrin perthnasoedd da. Canfuwyd sawl maes arfer da […]
7 ffordd y gallwn wella cydraddoldeb yn Abertawe
Dyfarnodd panel o gynghorwyr craffu fod ‘Cyngor Abertawe yn trin pobl yn deg ond gallai wneud yn well’. Roedd yr Ymchwiliad yn ystyried ‘sut y gall y cyngor wella’r ffordd y mae’n bodloni ac yn ymgorffori’r gofynion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru 2011)’. Meddai Cynullydd y Panel Ymchwiliad […]
Grwp Craffu ERW i gwrdd ym mis Medi
Bydd Cynghorwyr Craffu o’r chwe awdurdod lleol yn cwrdd 23/09/2019. Pwrpas y grwp yw helpu i sicrhau’r canlyniadau addysgol gorau i blant yn y Rhanbarth trwy gefnogi craffu effeithiol i gefnogi craffu cyson ar draws y chwe chyngor rhannu arfer da o ran craffu annog ymagweddau craffu a rennir ac osgoi dyblygu gwaith craffu rhoi […]
Sesiwn Holi ac Ateb Aelod y Cabinet: Y Cyng. Andrea Lewis
Disgwylir i Bwyllgor y Rhaglen Graffu gwrdd ar 9 Medi a bydd yn cynnal sesiwn holi ac ateb gydag Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, y Cynghorydd Andrea Lewis. Cliciwch yma os hoffech chi ofyn unrhyw gwestiynau iddi.