Archives for March 2017

A yw eich plentyn yn barod am yr ysgol? … A yw eich ysgol yn barod i dderbyn plant?

Gwelwyd bod llwyth o dystiolaeth sy’n awgrymu bod buddsoddiad yng ngwasanaethau’r blynyddoedd cynnar gan gynnwys parodrwydd plant i ddechrau’r ysgol, sy’n hynod fuddiol, nid yn unig i blant a’u teuluoedd, ond i gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae tystiolaeth y gall y buddsoddiad hwn helpu i dorri’r cylch anfantais yn ein cymunedau drwy newid cyfleoedd bywyd […]

Panel Craffu Addysg Grefyddol yn Cyfarfod Eto 27 Chwefror 2017

Cyfarfu Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Addysg y chwe awdurdod lleol yng Ngheredigion ar gyfer eu Grwp Cynghorwyr Craffu a gynhelir ddwywaith y flwyddyn.  Rhoddir manylion isod am farnau, casgliadau ac argymhellion o’r cyfarfod hwnnw. Rheoli Perfformiad Clywodd y Grwp Cynghorwyr am y pecyn hyfforddi ar reoli perfformiad i ysgolion a sut mae’n cael ei […]

Ailystyried y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Lleol

Mewn cyfarfod ar 1 Mawrth, clywodd cynghorwyr fod Abertawe, fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cyflwyno’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn llwyddiannus ar gyfer cylch 2015 i 2021. Roedd yn bleser ganddynt glywed bod gwaith partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio’n dda iawn ac ar ei fwyaf effeithiol erioed. […]

Y ffordd orau o drechu tlodi yw gweithio gyda’r bobl y mae tlodi yn effeithio arnynt

Mae Cynghorwyr Craffu yn Abertawe wedi bod yn ystyried y ffyrdd y gall y cyngor wella ei Strategaeth Trechu Tlodi. Eu prif gasgliad yw ei bod hi’n hanfodol bod y bobl hynny sy’n wynebu tlodi’n cael eu cynnwys mewn ffordd bwerus ac ystyrlon wrth ddatblygu a chyflwyno strategaeth. Dywedodd Cynullydd y Panel, y Cynghorydd Sybil […]