Archives for August 2021

Y diweddaraf am gynnydd Prosiect Adfywio Dinas Abertawe

Roedd Cynghorwyr Craffu ar y Panel Datblygu ac Adfywio’n falch o glywed bod ymgynghoriadau â grwpiau anabledd yn Abertawe wedi eu cynnal, ac o ganlyniad mae eu barn wedi cael ei hystyried wrth ddylunio a gosod Pont Prosiect Adfywio Bae Copr.  Cyfarfu’r Panel ar 1 Gorffennaf i drafod Adroddiad Diweddaru Prosiect Adfywio Dinas Abertawe gyda’r […]

Cynghorwyr Craffu’n ceisio sicrhad bod y Gwasanaethau Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdopi â’r pwysau a fydd yn eu hwynebu yn y misoedd i ddod

Cyfarfu’r Panel Craffu ar y Gwasanaethau i Oedolion â’r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol, i drafod Adroddiad Monitro Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion, Mai 2021. Roedd Aelodau’n teimlo y bydd y Tîm Iechyd Cymunedol yn wynebu pwysau cynyddol dros y misoedd i ddod. Nododd y […]

Angen i newid canfyddiadau cyhoeddus a hyrwyddo buddion defnyddio gwasanaethau bysus yn well yn Abertawe

Ar 7 Gorffennaf, cyfarfu’r Gweithgor Gwasanaethau Bysus â’r Cyng. Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella’r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a chynrychiolwyr First Cymru a Cardiff Bus i edrych ar yr ardaloedd a wasanaethir gan y rhwydwaith bysus a lefelau gwasanaeth yn Abertawe. Dyma grynodeb o’r hyn a drafodwyd gan gynghorwyr craffu’r gweithgor hwn a’r […]

Penaethiaid yn mynegi pryder ynghylch sut mae’r pandemig wedi effeithio ar ddisgyblion

Roedd penaethiaid ysgolion uwchradd Yr Esgob Gore a Phontarddulais yng nghyfarfod y Panel Craffu Addysg fis diwethaf i drafod sut maen nhw’n defnyddio’r arian maent wedi’i glustnodi ar gyfer eu strategaeth ymddygiad. Roedd y panel yn awyddus i ddarganfod sut mae ysgolion yn defnyddio’r arian hwn i leihau atgyfeiriadau i Wasanaethau Addysg Heblaw yn yr […]

Cynghorwyr Craffu’n canmol yr Uned Gyfieithu am ei rôl bwysig wrth ymateb i’r pandemig

Er gwaethaf heriau 2020-2021 yn sgîl cyfyngiadau’r pandemig, mae’r cyngor wedi parhau i wneud gwelliannau wrth weithredu Safonau’r Gymraeg. Cyfarfu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid ar ddiwedd mis Mehefin i drafod Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg 2020-21. Esboniodd swyddogion mai nod yr adroddiad yw tynnu sylw at ddiweddariadau ar draws y pedwar Gr?p Safonau: Cyflwyno gwasanaethau […]

Cynghorwyr Craffu’n canolbwyntio ar strategaethau a roddwyd ar waith gan y cyngor i wella ansawdd aer yn Abertawe

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel Craffu’r Amgylchedd Naturiol yn hwyr ym mis Mehefin i drafod ansawdd aer yn Abertawe a’r strategaethau sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd gan y cyngor. Roedd y panel yn falch o glywed bod ‘Sgrîn Werdd’ a dadansoddwr PM2.5 wedi cael eu gosod ar hyd Fabian Way […]