Partneriaeth Sgiliau Abertawe

Roedd y Panel Craffu Perfformiad Addysg yn meddwl bod y drafodaeth a gafwyd gydag aelodau  Partneriaeth Sgiliau Abertawe yn un ddefnyddiol iawn, gan eu helpu i ddeall y rôl, y cynnydd sy’n cael ei wneud a’r gwerth ychwanegol o gael y fath bartneriaeth yn Abertawe. Gallwch weld fideo o’r cyfarfod yma: https://www.youtube.com/embed/IlakSASRkYc Clywodd Cynghorwyr am […]

Addysg Ddewisol yn y Cartref

Dewisodd y Panel Craffu Perfformiad Addysg edrych ar y mater hwn gan fod nifer y ceisiadau i ddatgofrestru disgyblion a dewis eu haddysgu gartref wedi cynyddu o ganlyniad i sefyllfa COVID-19. Clywodd y panel nad yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu Addysg Ddewisol yn y Cartref ac nid oes ganddo unrhyw rwymedigaeth statudol i’w […]

Lles disgyblion Ysgol Gynradd Waun Wen yn “ysbrydoledig” dywedodd Cynghorwyr Craffu Abertawe

Cytunodd Cynghorwyr y Panel Craffu Perfformiad Addysg fod yn ysbrydoledig gweld sut y gall disgyblion ddod yn fwy gwydn a pharod i ddysgu pan gânt eu cefnogi. Diolchodd y panel i bennaeth Ysgol Gynradd Waun Wen a Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr am ddod i’n cyfarfod ar 19 Tachwedd. Gwnaethant edrych ar Ysgol Gynradd Waun […]

Tîm Craffu Abertawe yn diolch i ysgolion am eu gwaith caled

Meddai Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Addysg, “Rydym yn falch iawn o glywed am y gwaith gwych sydd wedi’i wneud i gadw ysgolion mor ddiogel â phosib rhag COVID-19, yn ogystal â sicrhau bod disgyblion yn gallu cael gafael ar y cyfarpar cyfrifiadurol priodol pan oedd yn rhaid iddynt weithio gartref i’w galluogi i ddefnyddio’n […]

Cynghorwyr Abertawe’n craffu ar gynigion y Gyllideb Flynyddol

Bydd Cynghorwyr Craffu’n craffu ar bapurau’r Gyllideb Flynyddol a gânt eu cyflwyno i Gabinet y cyngor ar 20 Chwefror 2020. Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn craffu ar y papurau hyn cyn penderfynu arnynt ond cyn hynny bydd gan y paneli craffu gwahanol y cyfle i edrych ar y gyllideb o safbwynt gwasanaeth […]

Sut mae Abertawe’n gwneud cynnydd ynghylch diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol?

Roedd y Panel Craffu Perfformiad Addysg wedi cwrdd ym mis Rhagfyr i drafod y cynnydd sy’n cael ei wneud ynghylch diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Roedd cynghorwyr yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r strategaeth ADY, y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, y pwysau arfaethedig a’r cynllun diwygiedig i liniaru’r rhain. Clywodd […]