Bydd Panel Craffu Perfformiad y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cwrdd â’r Cyng. Rob Stewart (Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe) a Jan Worthing o Fwrdd Iechyd PABM, aelodau allweddol y BGLl, ddydd Llun 26 Ionawr er mwyn datblygu ymhellach ddealltwriaeth y panel o waith y BGLl. Cynhelir y cyfarfod am 11am ddydd Llun 26 Ionawr yn […]
Cyfarfod Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol – dydd Llun 26 Ionawr
Beth sy’n digwydd yn yr adran Graffu ym mis Ionawr?
Dyma restr fer o’r holl gyfarfodydd a gynhelir ym mis Ionawr: 5 Ionawr 2pm Ystafell Gyfarfod 3.4.1 – Trawsnewid y Panel Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion 7 Ionawr 12:30pm Ystafell Bwyllgor 2 – Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad 12 Ionawr 5pm Ystafell 1.2.1 – Panel Ymchwilio Diwylliant Corfforaethol 14 Ionawr 1.30pm Ystafell Bwyllgor 3 – […]
Galw am Dystiolaeth: Panel Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol
Sefydlwyd panel ymchwiliad craffu newydd sy’n edrych ar ffyrdd y gall Cyngor Abertawe wella ei ddiwylliant corfforaethol gan gynnwys sut gallwn wella ein hagwedd ‘gallu gwneud’. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y panel yn edrych ar nifer o agweddau ar ddiwylliant corfforaethol a sefydliadol a bydd yn ceisio ateb y cwestiwn ‘sut gall Cyngor […]
Cynghorwyr yn edrych ar barcio yn Abertawe
Cyfarfu’r panel ddwywaith yn y deufis diwethaf i edrych ar y ddarpariaeth gwasanaethau parcio yn Abertawe. Roedd gan y panel lawer o ddiddordeb yn y gwaith meddwl trwy systemau sy’n cael ei wneud ar draws y gwasanaeth, yn arbennig y gwaith sy’n ymwneud â galluogi pobl i dalu’n uniongyrchol am Hysbysiadau o Dâl Cosb. Roeddem […]
Edrych ar effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth
Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu Twristiaeth ar 17 Tachwedd 2014 i ystyried adroddiad effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2013. Diben y cyfarfod hwn oedd asesu effaith yr adroddiad a’i argymhellion. Rôl y panel oedd asesu beth sydd wedi newid ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cabinet, a yw’r argymhellion cytunedig […]
Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid i drafod Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru
Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd â’r Cynghorydd Robert Francis-Davies (Aelod y Cabinet dros Fenter, Adfywio a Datblygu) yr wythnos hon i glywed pa mor dda y mae Abertawe yn perfformio mewn perthynas â Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Hefyd ar yr agenda y mae cyflwyniad gan Bennaeth […]