Archives for September 2013

Mae cynnwys plant a phobl ifanc yn allweddol wrth wella lles mewn ysgolion

  Mae’r hyn a wna ysgolion, y cyngor a phartneriaid i ddiwallu anghenion emosiynol plant yn hollbwysig i wella lles a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc yn ein hysgolion.  Wrth ymdrechu’n gyson i wella safonau addysgol, mae’n rhaid ystyried lles pobl ifanc. Mae’n rhaid i ysgolion gydnabod pwysigrwydd materion lles yn gyson, nid yn unig […]

Amddiffyn plant drwy Arwyddion Diogelwch

  Roedd y Panel Perfformiad Lles am wybod sut roedd Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe’n defnyddio’r model Arwyddion Diogelwch i ddiogelu plant yn Abertawe y nodwyd eu bod ‘mewn perygl’. Bwriad model Arwyddion Diogelwch yw helpu ymarferwyr wrth asesu risg a llunio cynlluniau diogelwch mewn achosion amddiffyn plant. Ei ddiben yw galluogi ymarferwyr ar draws […]

Helpu i wella bywydau plant sy’n derbyn gofal

Cynhaliodd grwp o gynghorwyr ymchwiliad manwl i sut mae’r cyngor a’i bartneriaid yn darparu gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, cyflwynodd y cynghorwyr ar y Panel Ymchwiliad Craffu Gwasanaethau i Blant sy’n Derbyn Gofal 15 o argymhellion yn eu hadroddiad i’r Cabinet. Eu gobaith oedd y byddai hyn yn gwella bywydau […]

Galw am Dystiolaeth: Ymchwiliad i Fewnfuddsoddi yn Abertawe

Mae’r farchnad fewnfuddsoddi wedi bod yn ddirwasgedig dros y blynyddoedd diwethaf gyda’r cyflwr economaidd byd-eang yn golygu bod lefel ymholiadau a diddordeb arwyddocaol yng Nghymru wedi dirywio. Wrth i’r economi wella fodd bynnag, mae angen i Abertawe fod yn barod i gwrdd â dyheadau a disgwyliadau’r buddsoddwyr yr hoffai eu denu fwyaf. Mae’r Cynghorwyr Craffu […]