Archives for March 2016

Camau ymlaen o ran mewnfuddsoddi ar draws Rhanbarth Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Mewn cyfarfod craffu ar 3 Mawrth, roedd cynghorwyr yn falch o glywed bod camau mawr wedi’u cymryd o ran mewnfuddsoddi yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe a bod gweddill yr argymhellion a wnaed gan y panel i’r Cabinet y llynedd wedi’u rhoi ar waith. Roedd y panel yn ystyried bod creu ystafell farchnata ranbarthol yng Nghampws y […]

Craffu Safon Ansawdd Tai Cymru

Yn ddiweddar sefydlodd Cynghorwyr Craffu weithgor i gwrdd â’r Cynghorydd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Genhedlaeth Newydd, sy’n gyfrifol am dai’r cyngor, er mwyn trafod cynnydd y cyngor tuag at gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae’n ofyniad dan y safon i bob landlord cymdeithasol wella’u stoc tai hyd lefel dderbyniol erbyn 2020, […]

Canlyniadau Craffu ar y Gyllideb

Cynhaliodd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid ei gyfarfod blynyddol i graffu ar y gyllideb ar 10 Chwefror. Daeth y Cynghorydd Rob Stewart, Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth (Arweinydd), ynghyd â Ben Smith, y Prif Gyfrifydd i’r cyfarfod. Diben y cyfarfod oedd i’r Panel ystyried adroddiad Cyllideb y Cabinet cyn cyfarfod […]