Archives for April 2021

Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn monitro camau gweithredu’r cyngor mewn perthynas ag ymateb ac adferiad COVID-19

Cyfarfu Pwyllgor y Rhaglen Graffu ag Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr a’r Dirprwy Brif Weithredwr ar 16 Mawrth i drafod cynllun ymateb ac adfer COVID-19 y cyngor, ‘Abertawe – Cyflawni’n Well Gyda’n Gilydd’ Roedd y Pwyllgor yn falch o glywed bod y mesurau cyfyngiadau symud parhaus wedi helpu i leihau achosion COVID-19 yn gyson. […]

Cyfarfod diweddaraf y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid

Cyfarfu’r Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid fis diwethaf i drafod adroddiad Monitro Cyllideb Chwarter 3 (C3) 2020-21, Datganiad Cyllideb Canol Blwyddyn 2020-21 a Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys. Clywodd y Panel fod y cyngor, yn C3, wedi cyflwyno colled incwm i Lywodraeth Cymru (£2.2m yw’r sefyllfa a gadarnhawyd erbyn hyn), a bod swyddogion wedi cyflwyno’r […]

Panel yr Amgylchedd Naturiol yn trafod Cynllun Corfforaethol ar gyfer Adnoddau Naturiol a Bioamrywiaeth

Cyfarfu Panel Craffu’r Amgylchedd Naturiol ym mis Mawrth i drafod cynnydd gyda’r gwaith a’r prif weithgarwch prosiect a reolir gan y Tîm Cadwraeth Natur. Ystyriodd y Panel Gofnod Gweithredu Bioamrywiaeth ac Isadeiledd Gwyrdd a ddarparwyd i’r Panel i wella dealltwriaeth o’r gwahanol weithgareddau sy’n gysylltiedig â chamau gweithredu dan flaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer […]

Cynghorwyr Craffu’n cwrdd â disgyblion Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Gwnaeth Cynghorwyr Craffu’r Panel Perfformiad Addysg gwrdd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a’r Cyfarwyddwr Addysg i drafod y cynllun adfer o COVID ar gyfer addysg, gwariant y Grant Datblygu Disgyblion a chraffu rhanbarthol. Dechreuodd y Panel y cyfarfod gyda’r Pennaeth a phedwar disgybl o Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt, a chlywodd […]

Mae Craffu’n ystyried canfyddiadau ynghylch mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Cynhaliwyd cyfarfod o’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar 24 Mawrth, a gwahoddwyd aelodau o Banel Craffu Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion i fod yn bresennol, yn ogystal ag Aelod y Cabinet dros Gefnogi Cymunedau a phrif swyddogion y gwasanaeth, er mwyn trafod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC): Mynd i’r afael â Thrais yn erbyn […]

Mae’r Panel Craffu’n falch o glywed bod gwaith recriwtio Ambassador Theatre Group wedi dechrau

Roedd Cynghorwyr y Panel Datblygu ac Adfywio’n falch o gwrdd â Chyfarwyddwr Gweithrediadau a Rheolwr Busnes Ambassador Theatre Group (ATG) a oedd yn bresennol yn nghyfarfod y panel ym mis Mawrth i gyflwyno trosolwg o ATG. Dysgodd y Panel fod ATG yn fusnes integredig fertigol; mae’n gweithredu lleoliadau, yn cynhyrchu sioeau ac yn gwerthu tocynnau […]