Archives for July 2021

Bwrdd Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe

Mae Pwyllgor y Rhaglen Graffu yn parhau i ddal Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i gyfrif drwy fonitro a herio ei berfformiad a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i ddinasyddion. Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin, clywodd y Pwyllgor gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru fel dau o bedwar […]

Adolygodd cynghorwyr craffu ffigurau eithriadol a gyflwynwyd yn Adroddiadau Ariannol 2020-21

Adolygodd cynghorwyr Craffu’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid y ffigurau eithriadol a gyflwynwyd yn Adroddiadau Ariannol 2020-21, gan gynnwys y cronfeydd wrth gefn o £50m oherwydd lefel ddigyffelyb y cyllid a’r grantiau digolledu a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ers dechrau’r pandemig. Yng nghyfarfod y Panel fis diwethaf, trafodwyd yr Alldro Refeniw, Alldro CTR ac Adroddiadau […]

Cynghorwyr Craffu’n hapus iawn gydag ymagwedd ‘busnes fel arfer’ y Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol, sydd wedi cynnal ei lefelau perfformiad er gwaetha’r pandemig

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu’r Panel Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant ac uwch-swyddogion yn y gwasanaeth y mis diwethaf i gael y diweddaraf am gynnydd Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol Bae’r Gorllewin, adborth cychwynnol ar Ymweliad Sicrwydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac adolygiad y panel o’r flwyddyn 2020-21 a rhaglen waith ddrafft 2021-22. […]

Cynghorwyr Craffu yn trafod y posibiliadau o weithio’n rhagweithiol gyda’r Gwasanaethau i Oedolion i leihau derbyniadau brys i’r ysbyty

Cyfarfu Cynghorwyr Craffu ar Banel Craffu’r Gwasanaethau i Oedolion ar ddechrau’r mis diwethaf i drafod Rhaglen Trawsnewid y Gwasanaethau i Oedolion, Camau Gweithredu o Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) – ‘Drws Blaen Gofal Cymdeithasol i Oedolion’ ac Adolygiad Blynyddol y Cyfarwyddwr o Daliadau Gwasanaethau Cymdeithasol. Dyma grynodeb o’r hyn a drafodwyd, ond gallwch weld yr […]

Galw am Dystiolaeth: Ymchwiliad Craffu Caffael

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch mewn perthynas â’r blog hwn neu unrhyw fformatau amgen e.e. Print bras etc. ffoniwch 01792 637732 neu e-bostiwchcraffu@abertawe.gov.uk Caffael yw’r prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad. Y cwestiwn allweddol felly yw:Beth y mae Cyngor Abertawe’n ei wneud i sicrhau ei fod yn caffael yn lleol, yn foesegol ac yn […]

Craffu: Gadewch i ni ei ddadansoddi

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed beth yw pwrpas craffu, pam y mae’n bodoli a pha fanteision a geir ohono? Rydym wedi llunio’r arweiniad syml hwn i helpu i ateb y cwestiynau pwysig hyn. Craffu Eir ati i graffu drwy ‘holi effeithiol’ sy’n golygu gofyn y math o gwestiynau sy’n canfod ffeithiau pwysicaf mater a’r […]