Y camau nesaf ar gyfer Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol

Bydd Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn cwrdd am 4.30pm, ddydd Mawrth, 27 Gorffennaf yn Ystafell Bwyllgor 3, Y Ganolfan Ddinesig. Yn ystod ei gam datblygu, cytunodd y panel mai’i ddull dewisol o ddatblygu’i gynllun gwaith ar gyfer 2015/16 fydd dewis her Bwrdd Gwasanaethau Lleol i ymchwilio’n fanwl iddo, gan bwysleisio effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth […]

Galw am Dystiolaeth: Ymchwiliad Craffu Llywodraethu Ysgolion

Mae panel ymchwilio craffu newydd wedi’i sefydlu sy’n edrych ar ffyrdd y gellir cefnogi llywodraethwyr ysgol yn well i sicrhau bod ysgolion yn perfformio’n dda ac yn gwella. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y panel yn ymchwilio i sawl agwedd ar waith llywodraethwyr ysgol er mwyn ceisio ateb y cwestiwn ‘Sut gall y cyngor […]

Ar beth y dylai craffu fod yn edrych?

Yn fuan bydd cynghorwyr craffu’n cynnal eu cynhadledd craffu flynyddol lle byddant yn blaenoriaethu eu gwaith ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n bwysig bod craffu’n canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i’r cyhoedd, felly hoffai’r cynghorwyr craffu glywed eich syniadau. Hoffent wybod a oes unrhyw wasanaethau’r cyngor neu unrhyw rai cyhoeddus eraill y […]

Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid?

Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd am 1.30pm ddydd Mercher 13 Mai (Ystafell Bwyllgor 3, Canolfan Ddinesig). Rôl y panel yw craffu perfformiad corfforaethol, gwaith gwella gwasanaethau a threfniadau cyllidebol y cyngor. Ar agenda’r wythnos hon yw sesiwn holi ac ateb gyda’r Cynghorydd David Hopkins, Aelod y Cabinet dros Dai […]

Rhannwch eich adborth â ni

Rydym wedi cyrraedd yr adeg honno o’r flwyddyn eto pan fyddwn yn cynnal ein harolwg blynyddol er mwyn cael adborth ar graffu. Rydym wedi bod yn cynnal yr arolwg hwn ar gyfer cynghorwyr, staff a sefydliadau partner ers sawl blwyddyn bellach ac rydym wedi cael llawer o syniadau da sy’n llywio’r hyn rydym yn ei […]

Gwneud craffu’n fwy hwylus i ddefnyddwyr

Rydym wedi cyflwyno tudalen gyhoeddiadau newydd ar gyfer craffu ac rydym yn meddwl ei bod hi’n ffordd dda o wneud y broses yn fwy agored, tryloyw a hygyrch. Gallwch ddod o hyd i’r dudalen yma. Rydym bellach yn defnyddio’r dudalen hon i gyhoeddi holl becynnau agendâu craffu, llythyrau ac adroddiadau ac atebion y Cabinet i’r adran […]