Archives for June 2014

Ffordd flaengar o graffu ar berfformiad ysgolion

Mae cynghorwyr yn Abertawe wedi creu ffordd flaengar o graffu ar berfformiad ysgolion yn Abertawe. Maent wedi cwrdd ag ysgolion, cadeiryddion llywodraethwyr ac arweinwyr systemau i nodi arfer da ac i edrych ar ysgolion sydd efallai’n peri pryder.  Maent yn cynnal sesiwn baratoi gydag arweinydd system yr ysgolion unigol ac yna maent yn cwrdd â’r […]

Oes gennych gwestiwn ar gyfer y Cynghorydd Mitchell Theaker, Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc?

Bydd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd i Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Mitchell Theaker, gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 7 Gorffennaf ar gyfer sesiwn holi ac ateb.   Bydd y pwyllgor yn archwilio’r gwaith y mae wedi’i wneud yn y rôl hon, gan ystyried blaenoriaethau, camau gweithredu, cyflawniadau ac effaith. Byddent yn croesawu’ch […]

Beth sy’n digwydd yn y Rhaglen Graffu ym mis Gorffennaf?

Dyma restr o’r holl gyfarfodydd a gynhelir ym mis Gorffennaf:   3 Gorffennaf 3.30pm – Panel Perfformiad Ysgolion 7 Gorffennaf 4pm – Pwyllgor y Rhaglen Graffu 8 Gorffennaf 1pm – Panel Ymchwilio Craffu Gofal Cymdeithasol yn y Cartref 8 Gorffennaf 2.30pm – Pwyllgor Arbennig y Rhaglen Graffu 14 Gorffennaf 2pm – Panel Perfformiad Lles 14 […]

Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol: pam mae’n bwysig

Sefydlwyd panel perfformiad craffu newydd i edrych ar waith Bwrdd Gwasanaethau Lleol Abertawe. Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn gyfrifol am fynd i’r afael â rhai o’r problemau mawr sy’n effeithio ar ddinasyddion Abertawe, gan gynnwys cam-drin yn y cartref, cymwysterau i oedolion, anweithgarwch economaidd, dyled, marwolaethau cynnar y gellir eu hatal, disgwyliad oes, annibyniaeth i […]

Beth fydd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn edrych arno eleni?

Yn ei gyfarfod diwethaf, trafododd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion ei raglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod. Brîff y panel yw darparu her barhaus i berfformiad ysgolion i sicrhau bod disgyblion Abertawe’n cael addysg o safon; ac mae’r awdurdod yn bodloni ei amcanion o ran gwella safonau ysgolion a chyrhaeddiad disgyblion. Rhai o’r […]