Archives for August 2015

Beth fu effaith yr ymchwiliad craffu i Fewnfuddsoddi ar gyfer Abertawe?

Cyfarfu Panel Ymchwilio Craffu Mewnfuddsoddi ym mis Gorffennaf i edrych ar sut mae ei adroddiad wedi effeithio ar fewnfuddsoddi yn Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Dywedwyd wrth y panel bod ei adroddiad wedi darparu ffocws ar gyfer sut dylai Abertawe a’r Dinas-ranbarthau ehangach gael eu hyrwyddo a’u cyflwyno i ddarpar fuddsoddwyr.Mae’r argymhellion yn cynrychioli elfennau […]

Beth yw goblygiadau’r diwygiad o ran anghenion dysgu ychwanegol?

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyflwyno fframwaith deddfwriaethol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Awst, bydd y Panel Craffu Perfformiad Ysgolion yn ystyried goblygiadau hyn i blant a phobl ifanc. Bydd cynghorwyr yn cwrdd â Phrif Swyddog Addysg y cyngor i drafod: Beth sydd wedi […]

Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid

Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd am 1.30pm ddydd Mercher 12 Awst (Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas). Rôl y panel yw craffu perfformiad corfforaethol, gwaith gwella gwasanaethau a threfniadau cyllidebol y cyngor. Mae dwy sesiwn Cwestiwn ac Ateb ar yr agenda yr wythnos hon. Mae’r sesiwn gyntaf gyda’r Cynghorydd […]

Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd

Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd (Cynghorydd Arweiniol Chris Holley) Cafodd ymchwiliad ei gwblhau yn ystod 2013 a ofynnodd, ‘Sut gallai’r cyngor a’i bartneriaid leihau anweithgarwch economaidd yn Abertawe?’ Gwnaeth adroddiad y Panel Ymchwilio Anweithgarwch Economaidd, ‘Di-waith nid Di-werth’, nifer o argymhellion i’r Cabinet ac ymatebwyd yn ffurfiol iddynt ym mis Mehefin 2014. Roedd rhai negeseuon allweddol […]