Archives for January 2016

Ydych chi am wybod beth sy’n digwydd ym myd craffu?

Rhwng Pwyllgor y Rhaglen Graffu, y pedwar panel perfformiad a’r dau banel  ymchwiliad parhaol heb sôn am y gweithgorau gwaith dilynol a rhanbarthol, mae llawer o graffu’n digwydd. Os ydych chi am ddilyn ein gwaith cyffrous, gallwch gofrestru i dderbyn ein e-bost misol.  Mae’r e-bost syml yn amlygu’r prif waith sy’n cael ei wneud gan […]

Arfer da ac Ysgolion Abertawe

Mae digonedd o arfer da wedi’i amlygu gan Estyn o ran ysgolion yn Abertawe, ac mae’r Panel Craffu ar Berfformiad Ysgol yn bwriadu dathlu hyn drwy ddigwyddiad arfer da ar 11 Chwefror.  Bydd y panel yn siarad â dwy o ysgolion a ymatebodd i’r ‘alwad am arfer da’, sef Ysgol Gynradd Trallwn ac Ysgol Gynradd […]

Oes gennych chi gwestiwn am sut mae ysgolion yn cefnogi plant ag anghenion iechyd meddwl?

Mae Panel Ymchwiliad Craffu’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc yn cwrdd ar 16 Chwefror i siarad â chynrychiolwyr o adran addysg y cyngor ac aelodau’r Cabinet dros Addysg Plant a Phobl Ifanc. Bydd y cyfarfod yn dechrau am 9.30am a chaiff ei gynnal yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Ddinas. Nod y […]

Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid?

Cynhelir cyfarfod nesaf y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid am 11.00am ddydd Mercher, 20 Ionawr 2016 yn Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas. Bydd Cynghorwyr Craffu’n edrych ar ddwy brif eitem ar yr agenda, sy’n cynnwys Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer yr 2il Chwarter ac Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer yr 2il Chwarter. Bydd Richard […]

Galw am Dystiolaeth: Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy drwy Weithredu yn y Gymuned

Mae panel ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n edrych ar adeiladu cymunedau cynaliadwy trwy ddatblygu gweithredu yn y gymuned.Mae’r Panel yn canolbwyntio’n benodol ar sut gall y cyngor rhoi’r cefnogaeth orau i breswylwyr er mwyn iddynt gynnal rhai gwasanaethau yn eu cymunedau eu hunain. Mae cynghorwyr wedi dewis edrych ar y testun hwn am y […]

Cefnogi llywodraethwyr ysgol trwy adegau heriol

Mae llywodraethwyr ysgol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, ond dim ond os oes ganddyn nhw’r wybodaeth, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol. Dyma brif neges adroddiad gan gynghorwyr craffu a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Gan ymateb i honiadau bod llawer o gyrff llywodraethu’n rhy gartrefol ac yn gweithredu fel ‘codwyr hwyl’ i’r pennaeth, mae nifer […]