Cynhelir cyfarfod nesaf y Panel Gwella Gwasanaethau a Chyllid am 11.00am ddydd Mercher, 20 Ionawr 2016 yn Ystafell Bwyllgor 3a, Neuadd y Ddinas. Bydd Cynghorwyr Craffu’n edrych ar ddwy brif eitem ar yr agenda, sy’n cynnwys Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer yr 2il Chwarter ac Adroddiad Monitro’r Gyllideb ar gyfer yr 2il Chwarter. Bydd Richard […]
Cefnogi llywodraethwyr ysgol trwy adegau heriol
Mae llywodraethwyr ysgol yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn, ond dim ond os oes ganddyn nhw’r wybodaeth, yr hyfforddiant a’r gefnogaeth angenrheidiol. Dyma brif neges adroddiad gan gynghorwyr craffu a gyhoeddwyd yr wythnos hon. Gan ymateb i honiadau bod llawer o gyrff llywodraethu’n rhy gartrefol ac yn gweithredu fel ‘codwyr hwyl’ i’r pennaeth, mae nifer […]
Pam ydym ni’n craffu cyn penderfynu?
Craffu cyn penderfynu yw’r broses sy’n galluogi cynghorwyr craffu i ymgysylltu â’r Cabinet cyn iddynt wneud penderfyniadau, ac mae rhesymau da dros pam y dylai hyn ddigwydd. Mae’n gyfle i ymgynghori â chynghorwyr anweithredol cyn i’r Cabinet wneud penderfyniad. Mae’n galluogi’r cynghorwyr craffu i gynyddu gwybodaeth a datblygu dealltwriaeth o faterion penodol. Mae’n cyfrannu at […]
Gwella’n Proses Ymchwiliad Craffu
Rydym wedi newid ein proses ymchwiliad craffu rhywfaint dros y misoedd diweddar, ac, am fod y newidiadau hyn wedi cael eu derbyn yn gadarnhaol gan gynghorwyr craffu, meddyliais y byddwn yn rhannu hyn. Mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi fod rhywfaint o gîc craffu, ond os ydych, rwy’n gobeithio y bydd hyn yn […]
Cyflwyno Cwestiynau gan y Cyhoedd
Mae Cwestiynau gan y Cyhoedd bellach ar yr agenda craffu. Mae mwy o gyfle bellach i’r cyhoedd fod yn rhan o waith craffu a chyfranogi mewn cyfarfodydd. Mae cynghorwyr craffu’n ymrwymedig i gael mwy o aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu at waith craffu fel y gall adlewyrchu eu barn. Yn dilyn […]
Craffu ar ERW: Ein consortiwm addysg rhanbarthol
Mae’n bleser gan Dîm Craffu Abertawe weithio gyda chynghorwyr a swyddogion craffu ar draws de-orllewin Cymru i graffu ar waith ERW: partneriaeth addysg y rhanbarth. Consortiwm o chwe chyngor sy’n cefnogi gwelliant addysgol yw ERW (neu Ein Rhanbarth ar Waith). Mae pob un o’r chwe chyngor yn cyfrannu […]