Mae’r Panel Ymchwiliad Craffu ar Dai Fforddiadwy’n cwrdd ddydd Mercher i asesu effaith eu hadroddiad ar dai fforddiadwy, a gynhaliwyd yn 2013. Edrychodd yr ymchwiliad ar ffyrdd y gallai’r cyngor a’i bartneriaid gynyddu’r cyflenwad cyffredinol o dai fforddiadwy yn Abertawe. Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yn ein llyfrgell adroddiadau craffu. Bydd y panel yn cwrdd […]
Digwyddiadau craffu ym mis Rhagfyr
Dyma restr o’r holl gyfarfodydd a gynhelir ym mis Rhagfyr: 3 Rhagfyr 5pm Ystafell Gyfarfod y Siambr – Y newyddion diweddaraf gan y Panel Ymchwilio i Dai Fforddiadwy 4 Rhagfyr 3.30pm Ystafell Bwyllgor 3 – Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid 8 Rhagfyr 4pm Ystafell Bwyllgor 3 – Panel Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion […]
Beth nesaf i Banel Craffu’r BGLl?
Yn dilyn ei gyfarfod ym mis Medi, mae Panel Craffu’r Bwrdd Gwasanaeth Lleol yn cwrdd ag aelodau Gr?p Gweithredol y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) sy’n weddill. Mae’r gr?p hwn yn cynrychioli partneriaid allweddol statudol y BGLl ac yn cyflawni gwaith manwl ar ran y BGLl ehangach. Mae’r aelodau sy’n dod yn cynnwys cynrychiolwyr o’r Heddlu […]
Craffu ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd Abertawe
Cynhelir cyfarfod y Gweithgor Craffu ar Reoli Perygl Llifogydd Lleol ddydd Iau (13 Tachwedd, 10am yn ystafell gyfarfod 3.4.1 y Ganolfan Ddinesig). Ymgynghorir â’r Gweithgor ynghylch cynnydd y cyngor tuag at gyflawni Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd Abertawe. Mae hyn yn dilyn y gwaith craffu a wnaed ym mis Ionawr 2013. Cyfarfu’r Gweithgor yr adeg honno […]
Mae angen i ni glywed eich straeon defnyddwyr
Os ydych chi’n ymwneud â chraffu yn Abertawe neu yn unrhyw le arall, os ydych chi’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd, yn rhoi tystiolaeth neu os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, hoffem glywed gennych. Rydym yn gwneud rhywfaint o waith ar wella’r ffordd rydym yn darparu gwybodaeth ac rydym am wneud yn si?r ein bod […]
Beth sydd nesaf i’r Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Cyllid?
Bydd y Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad Craffu Cyllid yn cwrdd ar 12 Tachwedd am 1.30pm – yn Ystafell Gyfarfod y Siambr, Canolfan Ddinesig. Y mis hwn byddant yn cwrdd â’r Cyng. Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg. Bydd yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Panel ar gynnydd tuag at gyflawni targedau arbedion o fewn […]