Archives for September 2016

Lleisiwch eich barn ar y Strategaeth Trechu Tlodi

Trechu tlodi yw un o flaenoriaethau pwysicaf y Cyngor. Mae ymchwiliad craffu newydd wedi dechrau sy’n edrych ar ffyrdd y gall Strategaeth Trechu Tlodi’r Cyngor gael ei gwella. Dros y misoedd nesaf, bydd y Panel Ymchwiliad Craffu Strategaeth Trechu Tlodi yn ystyried sawl agwedd ar y gwaith i drechu tlodi a bydd yn ceisio ateb […]

Ydy plant yn barod i’r ysgol yn Abertawe?

Mae panel craffu newydd wrthi’n cael ei sefydlu er mwyn ymchwilio i barodrwydd plant ar gyfer dechrau’r ysgol yn Abertawe. Bydd yn cwrdd am y tro cyntaf ar 11 Hydref. Amlygwyd y mater gan Gynghorwyr fel pwnc pwysig i’w adolygu yn y Gynhadledd Cynllunio Gwaith Craffu ym mis Mai. Ymysg y rhesymau bydd Cynghorwyr yn […]

Beth yw cynnwys strategaeth gwrth-dlodi effeithiol?

Mae trechu tlodi’n her enfawr – yn arbennig yn lleol. Mae’n hanfodol, felly fod unrhyw strategaeth leol, megis yr un a roddwyd ar waith gan Gyngor Abertawe, yn ystyried pa dystiolaeth sydd ar gael fel y gall fod mor effeithiol â phosib. Gan gadw hynny mewn cof, cynhaliwyd y sesiwn dystiolaeth gyntaf gan ein tîm […]

Y ffordd ymlaen i Weithredu yn y Gymuned

Mae’r cyngor yn wynebu toriadau cyllidebol sylweddol sy’n golygu bod yn rhaid i ni gymryd golwg radical ar y ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar ba wasanaethau ac asedau yr ydym yn parhau i’w rheoli a’r rhai na allwn ni eu cefnogi. Bwriad Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas […]

Sut rydym yn defnyddio tystiolaeth ar gyfer ymchwiliadau craffu

  Mae casglu tystiolaeth ar gyfer gwaith manwl yn agwedd sylfaenol ar arfer craffu. Fel arfer, bydd ymchwiliadau’n ceisio cynnig datrysiadau credadwy i faterion cymhleth y gellid eu mabwysiadu’n hyderus. Felly, mae angen i’r gwaith fod yn seiliedig ar broses gadarn o gasglu a defnyddio tystiolaeth. Fel unrhyw broses ymchwil, mae’n bwysig nodi’r egwyddorion sylfaenol. […]

Lleihau yn ddiogel nifer o blant sy’n derbyn gofal

Mae 493 o blant sy’n derbyn gofal bellach yng ngofal yr awdurdod ac mae’r nifer hwn wedi bod yn gostwng yn gyson dros y 6 mis diwethaf. Ers mis Chwefror, cafwyd 28 yn llai o blant sy’n derbyn gofal ac mae’r tîm yn amlwg yn gweithio’n galed i gael y canlyniadau da hyn. Mae panel […]