Mae gwasanaeth gofal cartref y cyngor i bobl h?n yn wynebu heriau aruthrol. Yn ogystal â’r galw cynyddol a geir gan boblogaeth sy’n heneiddio, mae pwysau cyson i leihau cyllidebau’r cyngor. Er mwyn diwallu’r heriau hyn, mae’r cyngor eisiau helpu pobl i aros yn annibynnol ac yn cymryd camau i wneud hyn. Fodd bynnag, yn […]
Archives for December 2014
Mae angen i ni barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o helpu pobl hyn i aros yn annibynnol
Craffu ar gynigion y gyllideb
Bydd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid yn cwrdd ar 7 Ionawr er mwyn trafod cynigion y gyllideb ar gyfer 2015/16-2017/18. Bydd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Gyllid ac Adnoddau yn cwrdd â’r panel er mwyn trafod y cynigion. Rôl y panel yw cwestiynu a herio agweddau […]
Beth sy’n digwydd yn yr adran Graffu ym mis Ionawr?
Dyma restr fer o’r holl gyfarfodydd a gynhelir ym mis Ionawr: 5 Ionawr 2pm Ystafell Gyfarfod 3.4.1 – Trawsnewid y Panel Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion 7 Ionawr 12:30pm Ystafell Bwyllgor 2 – Panel Gwella Gwasanaethau a Pherfformiad 12 Ionawr 5pm Ystafell 1.2.1 – Panel Ymchwilio Diwylliant Corfforaethol 14 Ionawr 1.30pm Ystafell Bwyllgor 3 – […]
Galw am Dystiolaeth: Panel Ymchwiliad Craffu Diwylliant Corfforaethol
Sefydlwyd panel ymchwiliad craffu newydd sy’n edrych ar ffyrdd y gall Cyngor Abertawe wella ei ddiwylliant corfforaethol gan gynnwys sut gallwn wella ein hagwedd ‘gallu gwneud’. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd y panel yn edrych ar nifer o agweddau ar ddiwylliant corfforaethol a sefydliadol a bydd yn ceisio ateb y cwestiwn ‘sut gall Cyngor […]
Oes gennych chi gwestiwn i’r Cynghorydd Jennifer Raynor, Aelod y Cabinet dros Addysg?
Bydd Aelod y Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jennifer Raynor, yn ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 22 Rhagfyr ar gyfer sesiwn holi ac ateb. Mae’r pwyllgor yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau. Mae portffolio Addysg y Cynghorydd Raynor yn cynnwys y meysydd cyfrifoldeb […]
Oes gennych chi gwestiwn i’r Cynghorydd Christine Richards, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc?
Bydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Christine Richards, yn ymddangos gerbron Pwyllgor y Rhaglen Graffu ar 22 Rhagfyr am sesiwn holi ac ateb. Mae’r pwyllgor yn croesawu’ch syniadau ar gyfer cwestiynau. Mae portffolio Gwasanaethau Plant […]