Archives for December 2014

Cynghorwyr Craffu yn edrych ar ymddygiad disgyblion a’r effaith ar berfformiad mewn ysgolion

Picture courtesy www.thewhocarestrust.org.uk Cyfarfu Panel Craffu Perfformiad Ysgolion gyda’r Rheolwr Mynediad i Ddysgu a’r Prif Seicolegydd Addysg ym mis Tachwedd i edrych ar faterion sy’n effeithio ar ymddygiad plant a phobl ifanc yn yr ysgol a sut gall hynny, yn ei dro, effeithio ar eu perfformiad yn yr ysgol. Cysylltodd y cynghorwyr ag ysgolion i […]

Cynghorwyr yn edrych ar barcio yn Abertawe

Cyfarfu’r panel ddwywaith yn y deufis diwethaf i edrych ar y ddarpariaeth gwasanaethau parcio yn Abertawe. Roedd gan y panel lawer o ddiddordeb yn y gwaith meddwl trwy systemau sy’n cael ei wneud ar draws y gwasanaeth, yn arbennig y gwaith sy’n ymwneud â galluogi pobl i dalu’n uniongyrchol am Hysbysiadau o Dâl Cosb. Roeddem […]

Edrych ar effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth

Cyfarfu’r Panel Ymchwiliad Craffu Twristiaeth ar 17 Tachwedd 2014 i ystyried adroddiad effaith yr Ymchwiliad Craffu Twristiaeth a gynhaliwyd ym  mis Mehefin 2013. Diben y cyfarfod hwn oedd asesu effaith yr adroddiad a’i argymhellion. Rôl y panel oedd asesu beth sydd wedi newid ers i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r Cabinet, a yw’r argymhellion cytunedig […]

Panel Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid i drafod Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru

        Bydd y Panel Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chraffu Cyllid yn cwrdd â’r Cynghorydd Robert Francis-Davies (Aelod y Cabinet dros Fenter, Adfywio a Datblygu) yr wythnos hon i glywed pa mor dda y mae Abertawe yn perfformio mewn perthynas â Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Hefyd ar yr agenda y mae cyflwyniad gan Bennaeth […]

Perfformiad ailgylchu a thirlenwi ar yr agenda graffu

Ers rhai blynyddoedd, mae craffu wedi bod yn cadw llygad ar berfformiad y cyngor wrth ailgylchu gwastraff a lleihau’r swm rydym yn ei anfon i safleoedd tirlenwi. Rydym yn gwneud hyn drwy adroddiad blynyddol ar berfformiad i graffu. Mae’n bwnc pwysig oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi pennu rhai targedau heriol iawn i bob cyngor ailgylchu […]

Craffu i ystyried argymhellion tai fforddiadwy

Mae’r Panel Ymchwiliad Craffu ar Dai Fforddiadwy’n cwrdd ddydd Mercher i asesu effaith eu hadroddiad ar dai fforddiadwy, a gynhaliwyd yn 2013. Edrychodd yr ymchwiliad ar ffyrdd y gallai’r cyngor a’i bartneriaid gynyddu’r cyflenwad cyffredinol o dai fforddiadwy yn Abertawe. Gallwch lawrlwytho copi o’r adroddiad llawn yn ein  llyfrgell adroddiadau craffu. Bydd y panel yn cwrdd […]